SL(6)194 – Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) yn darparu i ddosbarthau penodol o bersonau o dramor fod yn gymwys neu’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai a/neu am gymorth tai.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2014 i ymestyn cymhwystra ar gyfer dyraniadau tai a chymorth tai a ddarperir gan awdurdodau lleol i bersonau yr effeithir arnynt gan ymosodiad Rwsia ar Wcráin ac sy’n dod o fewn tri llwybr mewnfudo newydd:

(i)            Cynllun Teuluoedd Wcráin, a fydd yn caniatáu i aelodau teulu agos ac estynedig dinasyddion Prydain, personau sydd wedi sefydlu yn y DU ac eraill ddod o Wcráin i'r DU neu aros yn y DU.

(ii)           Cynllun Nawdd Cartrefi dros Wcráin, a fydd yn caniatáu i wladolion Wcráin a'u teulu agos ddod i'r DU gyda noddwr cymeradwy sydd wedi cytuno i ddarparu llety.

(iii)          Cynllun Estyniad Wcráin, a fydd yn caniatáu i wladolion Wcráin sydd, gyda chaniatâd ar 18 Mawrth 2022, â’u partner a’u plant yn y DU (gan gynnwys y rhai sydd wedi aros yn rhy hir am gyfnod byr) i aros yn y DU.

Cyfeirir at y tri llwybr mewnfudo newydd gyda’i gilydd fel “Cynlluniau Wcráin” ac fe’u nodir yn yr Atodiad Cynllun Wcráin yn y Rheolau Mewnfudo[1].

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron Senedd Cymru. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae Rheol Sefydlog 15.4 yn darparu:

Rhaid i unrhyw ddogfen a osodir neu unrhyw fusnes a gyflwynir gan y Llywydd, y Comisiwn, y llywodraeth, unrhyw bwyllgor neu’r Clerc gael ei gosod neu ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg, cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.”

Nodwn nad yw'r Memorandwm Esboniadol ar gael yn Gymraeg. A all Llywodraeth Cymru egluro’r rheswm dros hyn?

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Rydym yn nodi na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff canlynol yn y Memorandwm Esboniadol:

Due to the speed at which the Ukraine Schemes have been established there has not been time to consult on this aspect of the Regulations. However, as the Ukraine Schemes are a product of reserved UK Government policy (immigration), it would not be possible to undertake a meaningful consultation on alternative approaches, as the effect of the 2022 Regulations is to ensure consistency between Welsh housing law and immigration law.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y Memoranda Esboniadol a’r Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Offerynnau Statudol a osodir yn ddwyieithog gerbron y Senedd.

 

Mae Rheol Sefydlog 15.4 o’r Senedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob dogfen gael ei gosod yn ddwyieithog cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, ac mae Safon 47 o Safonau’r Gymraeg (y dyletswyddau statudol a osodir ar Lywodraeth Cymru gan Gomisiynydd y Gymraeg) yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried y pwnc a’r gynulleidfa a ragwelir ar gyfer dogfennau penodol wrth flaenoriaethu eu cyfieithu. O dan ganllawiau a ddarparwyd gan swyddfa’r Comisiynydd (yn ei Chod Ymarfer ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015), wrth flaenoriaethu’r dogfennau hyn i’w cyfieithu ar yr adeg hon fe wnaethom ystyried materion megis a oedd y Rheoliadau yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar y Gymraeg yn uniongyrchol, a oedd y Rheoliadau o ddiddordeb mawr i grwpiau o siaradwyr Cymraeg yn benodol, ac a fyddai cyfran uchel o’r gynulleidfa ar gyfer y dogfennau yn siarad Cymraeg. Gan fod y Rheoliadau hyn yn gymwys yn bennaf i bobl o Wcráin, ac nad ydynt yn ymwneud â’r Gymraeg a’u bod yn annhebyg o effeithio ar siaradwyr Cymraeg, nid ystyriwyd eu bod yn flaenoriaeth i’w cyfieithu ar yr adeg hon.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

13 Ebrill 2022

 

 



[1] Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (Tŷ’r Cyffredin 395), fel y'i diwygiwyd. Cafodd Atodiad Cynllun Wcráin ei gyflwyno gan y datganiad o newidiadau yn y Rheolau Mewnfudo: Tŷ’r Cyffredin 1220, a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 29 Mawrth 2022.